DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023

DYDDIAD

05 Medi 2023

GAN

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

 

 

Bydd aelodau’r Senedd am wybod ein bod yn rhoi cydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol i arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig sy’n ymwneud â Chymru.

 

Mae’r Arglwydd Benyon, y Gweinidog dros Fioddiogelwch, y Môr a Materion Gwledig yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), wedi gofyn am ganiatâd i wneud Offeryn Statudol (OS) o’r enw Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023.

 

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud yr OS uchod, drwy arfer y pwerau a roddir o dan baragraff 8C(1) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae'r OS yn ymwneud â gweithredu Fframwaith Windsor, fel y cytunwyd arno rhwng y DU a'r UE ar 27 Chwefror 2023.

 

Mae'r diwygiadau yn y Rheoliadau yn gosod y syfleini i newid y ffordd y mae planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill yn symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon drwy gyflwyno gofynion cychwynnol ar gyfer cynllun Labeli Iechyd Planhigion Gogledd Iwerddon.

 

Bydd cynllun Labeli Iechyd Planhigion Gogledd Iwerddon yn galluogi symud gwahanol blanhigion a chynhyrchion planhigion o weithredwr proffesiynol Prydain Fawr at weithredwr proffesiynol Gogledd Iwerddon. Mae’n disgwyl bydd y cynllun hwn yn debyg i'r cynllun pasbort planhigion a ddefnyddir yn y DU ar hyn o bryd. Dyma'r planhigion a'r cynhyrchion planhigion sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun Labeli Iechyd Planhigion Gogledd Iwerddon:

·         planhigion ar gyfer plannu;

·         tatws hadyd;

·         cerbydau a pheiriannau sydd wedi cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth a chyfarpar i'w symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

 

Gosodwyd yr OS gerbron Senedd y DU ar 5 Medi 2023 i ddod i rym ar 1 Hydref 2023.

 

Unrhyw effaith y gallai'r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Mae'r mesurau hyn o dan Fframwaith Windsor yn ehangu cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru drwy roi swyddogaethau iddynt (yn rhinwedd eu swyddogaeth fel ‘Awdurdod Cymwys’ Cymru) yn ddilyffethair. Nid yw'r OS yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

Diben y diwygiadau

 

Diben y Rheoliadau yw diogelu bioddiogelwch a chefnogi masnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Mae'r diwygiadau yn y Rheoliadau yn gosod y syfleini i newid y ffordd y mae planhigion a gwrthrychau eraill yn symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon drwy gyflwyno gofynion cychwynnol ar gyfer cynllun Labeli Iechyd Planhigion Gogledd Iwerddon.

 

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n manylu ar darddiad, diben ac effaith y diwygiadau ar gael yma:

 

http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2023/957

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn mewn perthynas â Chymru ac ar ei rhan, gan fod yr OS yn ymwneud â maes datganoledig, ond, mae'r OS yn gweithredu ledled Prydain Fawr ac yn cael effaith o ran derbyn nwyddau i Ogledd Iwerddon. Mae hefyd yn gosod gofynion ar weithredwyr Gogledd Iwerddon.

Bydd gwneud y OS hwn ledled Prydain Fawr yn diogelu bioddiogelwch drwy gyflwyno mesurau diogelu fel Cynllun Labeli Iechyd Planhigion newydd Gogledd Iwerddon. Mae'n hanfodol i fusnesau ein bod yn cynnal yr un drefn ar gyfer Cynllun Labeli Iechyd Planhigion newydd Gogledd Iwerddon y naill ochr a’r llall i'r ffin.

 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.